Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol.
2014-2015
Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi
1. Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.
Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Jocelyn Davies AC
Janet Finch-Saunders AC
Eluned Parrott AC
Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan;
Dr Alison Parken – Prifysgol Caerdydd
Shirley Rogers, Gyrfa Cymru
Joy Kent, Chwarae Teg
Christine O’Byrne, Chwarae Teg.
Dr Rachel Bowen, Ffederasiwn y Busnesau Bach
Helen Humphreys, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
2. Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf.
Cyfarfod 1.
Dyddiad y cyfarfod: 8 Hydref 2014
Yn bresennol: Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Suzy Davies AC
Julie Morgan AC
Bethan Jenkins AC
Robin Lewis, Swyddfa Christine Chapman AC
Sophia Haywood - Staff Cymorth Aelod Cynulliad
Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
Christine O’Byrne, Arweinydd Polisi, Chwarae Teg
Rebecca Newsome, Ymddiriedolaeth y Tywysog
Helen Humphreys, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Rachel Maude, BT
Jan Pickles Heddlu De Cymru.
Alan Felstead, Prifysgol Caerdydd
Natasha Cody, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Bryn Thomas, Ymddiriedolaeth y Tywysog
Sarah Taylor, GE Aviation
Jessica Rumble, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru
Rosie Inman, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru
Ann Gair Owens, GE Aviation
Pwnc: Y Wasgfa Sgiliau
Siaradwyr Gwadd - Alan Felstead, Prifysgol Caerdydd; Natasha Cody, Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod Cymru,
Crynodeb o’r argymhellion a ddilynodd y drafodaeth:
· Bod Gweithgor o gyflogwyr yn edrych yn fanwl ar beth yw’r ffordd orau i gefnogi menywod sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant.
· Archwilio natur dyddiau Cadw Mewn Cysylltiad a rhannu arferion gorau. Bydd rhai cyflogwyr yn dod â staff ynghyd i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf dros ginio. Gall staff ennill mwy o hyder i ddychwelyd i’r gwaith pan sylweddolant nad oes cymaint â’r disgwyl wedi newid yn y gweithle.
· Hybu ffordd iach o fyw i ddynion a menywod ifanc. Nid bywyd llawn o reidrwydd yw bywyd lle mae gwaith yn ganolog.
· Gall caffael ysgogi pethau ar yr agenda. Gofynnwch am archwiliadau ar sail rhyw, a dylid dylanwadu ar gyflogwyr i greu galw.
· Gofynnwch i bob busnes sydd â dros ddeg o weithwyr i adrodd ar y cydbwysedd sydd o ran y rhywiau ar bob lefel yn eu sefydliadau.
· Dylai’r mater o waith rhan-amser gael ei herio mewn strategaeth ehangach o ran gwella gwaith ar gyfer pawb.
· Nid yw argraff pobl o waith rhan-amser bob amser yn wych. Gall fod rhagdybiaeth bod gwaith rhan-amser yn llai pwysig / gwerthfawr. Dylid ceisio cael rhagor o ddynion i weithio’n rhan-amser. Fel arfer, mae gweithwyr rhan-amser yn fenywod yn bennaf, er bod y gyfran o ddynion wedi cynyddu ers dechrau’r dirwasgiad.
Cyfarfod 2.
Dyddiad: 4 Chwefror 2015
Yn bresennol: Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Julie Morgan AC
Eluned Parrott AC
Robin Lewis, Swyddfa Christine Chapman AC
Ioan Bellin, Swyddfa Simon Thomas AC
Sian Mile, Swyddfa Julie Morgan AC
Christine O’Byrne, Arweinydd Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg
Anne Howells, Cydgysylltydd Polisi, Chwarae Teg
Claire Rodwell, y gymdeithas tai Newydd
Victoria Bolton, y gymdeithas tai Newydd
Nina Prosser, Ymddiriedolaeth y Tywysog
Jan Pickles, Comisiynydd Cynorthwyol
Ruth Davies, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dawn Smart
Claire Knowles, Acuity Legal Ltd
Marie Brousseau-Navarro – Legal Eyes
Dr Alison Parken – Prifysgol Caerdydd
Sophie Howe, Dirprwy Gomisiynydd
Beth Titley – Gofalwyr Cymru
James Moss, Acuity Legal Ltd
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Y pwnc ar gyfer y cyfarfod hwn oedd - Y Gweithle Modern
Y siaradwyr gwadd oedd: Claire Rodwell a Victoria Bolton, o’r gymdeithas Tai Newydd a
Sian Hayward ac Emma Thomas, Cyngor Sir Fynwy, drwy recordiad fideo.
Nodwyd yn ystod y drafodaeth:
· Yn y sefydliad tai Newydd, mae’r Prif Weithredwr a’r staff gwrywaidd oll yn mwynhau’r trefniadau gweithio hyblyg, ac mae llawer o ddynion yn gweithio rhan-amser. Mae un aelod o staff, a fydd yn ymddeol ym mis Mawrth, wedi bod yn paratoi ar gyfer y cam hwn dros y 18 mis diwethaf, drwy leihau ei oriau o 35 i 28 awr, ac yn awr mae’n gweithio 21 awr yr wythnos.
· Absenoldeb rhiant – nid yw gwell taliad yn golygu y bydd dynion yn awyddus i fanteisio ar absenoldeb rhiant – o ennill £35,000 y flwyddyn i ennill £130.00 yr wythnos.
· Yn yr heddlu, bu gwelliannau mawr o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau, ond gall fod yn broblem i gadw menywod oherwydd maent yn tueddu i adael ar ôl cael plant.
· Dangosodd Cyngor Sir Fynwy y gall hyd yn oed rolau sydd â llai o sgiliau lwyddo o ran trefniadau gweithio hyblyg. Caiff Gofalwyr reolaeth lawn o’u rhestr gleientiaid eu hunain, a gallant drefnu apwyntiadau yn ôl y gofyn. Gall staff cynnal tiroedd gyflawni eu gwaith ar unrhyw adeg o’r dydd, ar yr amod bod yr amser yn synhwyrol. Mae ymddiriedaeth a pharch yn hanfodol i lwyddiant gweithio ystwyth. Mae’r system yn Sir Fynwy wedi cael ei rhoi ar waith o’r brig i lawr. Nid oes gan y Prif Weithredwr ei swyddfa ei hun, hyd yn oed. Mae caniatáu hyblygrwydd o ran gweithio yn ffordd dda i sicrhau bod staff medrus yn cael eu cadw.
· Mae rhai pobl eisiau gweithio’n rhan-amser, ac nid gweithio i drefniant oriau hyblyg, ond mae cred bod gwerth is i waith rhan-amser. Rhan-amser yw llawer o’r rolau ym maes gwasanaethau cwsmeriaid, a gall fod yn anodd rhannu swydd mewn rolau uwch, h.y. pwy sy’n gwneud penderfyniadau / gwrthdaro / darparu.
· Roedd gan y grŵp ddiddordeb mawr yn y cysyniad o weithio ystwyth yn hytrach na gweithio oriau hyblyg. Mae gweithio ystwyth yn gofyn am newid o ran diwylliant y gweithle, i ganolbwyntio ar ganlyniadau.
· Mae gan rai sefydliadau systemau sy’n olrhain pa oriau yr ydych wedi gweithio. Mantais hynny yw bod modd mewngofnodi wrth weithio o gartref. Er mwyn cyflawni hyn, gosodwyd systemau TG newydd a chafodd y ddesg cymorth TG ei hailstrwythuro. Mae TG yn hanfodol i sicrhau llwyddiant.
· Nid yw argraff pobl o waith rhan-amser bob amser yn wych. Gall fod rhagdybiaeth, bod gwaith rhan-amser yn llai pwysig / gwerthfawr. Fel arfer, mae gweithwyr rhan-amser yn fenywod yn bennaf, er bod y gyfran o ddynion wedi cynyddu ers dechrau’r dirwasgiad. Dylai’r mater o waith rhan-amser gael ei herio mewn strategaeth ehangach o wella gwaith ar gyfer pawb.
Argymhellion ar gyfer y Llywodraeth:
· Dylid hyrwyddo newid o ran diwylliant mewn gweithleoedd drwy dynnu sylw at enghreifftiau o arferion da er mwyn annog hyblygrwydd a ffocws ar ganlyniadau.
· Dylid grymuso rheolwyr ac arweinwyr i fesur perfformiad yn ôl canlyniadau, ac nid yn ôl amser.
· Dylid gwella ansawdd gwaith rhan-amser ar gyfer dynion a menywod.
· Dylid codi ymwybyddiaeth ymysg cyflogwyr o fanteision gweithio ystwyth - gorbenion is, cadw staff ac ati.
Cyfarfod 3.
Dyddiad: 3 Mehefin 2015
Yn bresennol: Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Robin Lewis – Swyddog Cymorth Christine Chapman AC
Craig Lawson – Swyddog Cymorth Suzy Davies AC
Joy Kent, Chwarae Teg
Christine O’Byrne, Chwarae Teg.
Hada Turkman, Chwarae Teg
Anne Howells, Chwarae Teg
Rachel Bowe – Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
Alison Jones – Y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Helen Pitt – Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr
Rebecca Rosenthal – Tiwtor Dysgu Cymunedol i Oedolion
Rayner Rees – Soroptimydd
Lisa Fryer – The Yard
Louise Button – The Yard
Samina Khan – CAVC
Norma Jarboe
Alice Shing
Mair Rigby – Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Dr Alison Parken – Prifysgol Caerdydd
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Y pwnc ar gyfer y cyfarfod hwn oedd Pwy sy’n becso?
Y siaradwyr gwadd oedd Beth Evans, Gofalwyr Cymru; James Moss, cwmni Acuity Legal Ltd;
Sharon Brasiello; Catherine Morgan a Sarah Virgo - Gofalwyr
Y drafodaeth a’r prif argymhellion:
· Cafwyd trafodaeth ar hunangyflogaeth fel llwybr ar gyfer cydbwyso cyfrifoldebau gofalu a gwaith, a nodwyd rhai materion yn hyn o beth. Awgrymwyd y gallai hunangyflogaeth fod yn llwybr llwyddiannus i rai pobl, ond bod angen i wybodaeth am ystyriaethau ariannol fod ar gael yn haws.
· Mae pryderon ynghylch y lwfans gofalwyr.
· Nid yw’r Lwfans Gofalwyr yn seiliedig ar brawf modd – awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU er mwyn i hyn newid.
· Nodwyd nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflogaeth a hawl i fudd-daliadau, a bod Bil Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth Cymru yn cael ei ddiddymu (mae linc i’r datganiad wedi’i anfon ar wahân). Mynegwyd rhai pryderon ynghylch p’un a fyddai ei gynnwys mewn deddfwriaeth arall yn cyfyngu ar ei effaith.
· Cytunwyd nad dim ond newid deddfwriaethol oedd ei angen ond newid diwylliannol ehangach hefyd o ran rôl dynion a menywod mewn gofal, a’r cydbwysedd rhwng gofalu a gweithio yn gyffredinol.
· Bu’r grŵp yn trafod yr effaith ar ofalwyr ifanc a chael cam o ran eu haddysg. Gellid gwneud mwy yn hyn o beth.
· Teimla’r aelodau fod stigma sylweddol yn gysylltiedig â gofalu a bod staff yn aml yn teimlo na allant drafod pethau gyda’u rheolwyr llinell pan maent am gael amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer dyletswyddau gofalu. Awgrymwyd y byddai ymgyrch yn y cyfryngau o fudd i fynd i’r afael â hyn.
Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.
CITB, SgiliauAdeiladu, Unedau 4 a 5, Canolfan Fusnes Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd David, Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SH
Cymdeithas Tai Newydd, Tŷ Cadarn, 5 Ffordd y Pentref, Tongwynlais, CF15, 7NE
Ymddiriedolaeth y Tywysog, Ocean Way, Caerdydd
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN), Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd, CF24 5JW
Grŵp Tai Cymuned Cymru, 2 Ocean Way, Caerdydd, CF24 5TG.
Mae’r sefydliadau hyn wedi cymryd rhan yng nghyfarfodydd y grŵp drwy gydol y flwyddyn.
Datganiad Ariannol Blynyddol.
2014-2015
Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi
Christine Chapman AC
Christine O’Byrne, Chwarae Teg.
Treuliau’r Grŵp
|
Dim. |
£0.00 |
Cost yr holl nwyddau.
|
Ni phrynwyd nwyddau. |
£0.00 |
Buddiannau a gafwyd gan y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol.
|
Ni chafwyd buddiannau. |
£0.00 |
Ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.
|
Ni chafwyd cymorth ariannol. |
£0.00 |
Gwasanaethau a ddarperir i’r Grŵp, fel lletygarwch.
Talwyd am y lluniaeth gan Chwarae Teg.
|
||
Dyddiad |
Disgrifiad o’r darparwr a’i enw
|
Cost |
|
Arlwyo Gwasanaeth Arlwyo Charlton House |
681.57 |
|
Cyfieithu gan Testun |
568.00 |
Cyfanswm y costau
|
1249.57 |